Mewngofnodi gan ddefnyddio:
a) Yr Enw Defnyddiwr a'r Cyfrinair ar eich taflen neu poster Medra.
b) Neu gofynnwch am y manylion yma gan eich adran Adnoddau Dynol neu Rheolwr Llinell.
c) Neu cysylltwch gyda ni.
Dewiswch un o'r cwnselwyr o'r rhestr. Gallwch ddewis cwnsler o unrhyw ardal a threfnu'n uniongyrchol dros y ffôn neu e-bost pryd a lle i gwrdd. Os dewiswch e-bostio, cynhwyswch 'Medra' yn y blwch 'Pwnc'.
Os byddai’n well gennych cwnsela dros y ffôn cysylltwch â’r swyddfa trwy ebost neu ffôn.
Ewch â’ch ID staff (bathodyn enw neu slip cyflog) i’ch apwyntiad cyntaf, er mwyn cadarnhau eich cymhwysedd.
Nid oes rhaid i chi gael caniatâd eich cyflogwr na rhoi gwybod iddynt eich bod yn defnyddio’r gwasanaeth.
Os rydych angen help i drefnu amser i ffwrdd o’r gwaith i mynychu, gellir gwneud hyn yn disylw trwy gysylltu gyda Adran Adnoddau Dynol neu Adran Bersonel.
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar gyfer problemau gwaith, problemau perthynas neu problemau bersonol a allai fod yn effeithio ar eich gallu i ymdopi â’ch Gwaith.
Os byddai'n well gennych, ar ôl eich sesiwn gyntaf, weld rhywun arall am unrhyw reswm, rhowch wybod i'ch cwnselydd ac dewiswch cwnselydd arall o'r rhestr.
Mae cwnselwyr yn annibynnol o eich cyflogwr ac yn dilyn rheolau proffesiynol llym sy’n diogelu eich hunaniaeth a chynnwys y sesiynau.
Mae'r gwasanaeth cwnsela hwn ar gyfer unrhyw sefyllfa lle mae natur y broblem neu'r teimladau y mae yn achosi yn golygu y byddai help o'r tu allan i'r gweithle yn fwyaf addas. Cynlluniwyd i ategu unrhyw wasanaethau Adnoddau Dynol, Iechyd Galwedigaethol neu gwasanaethau Gyngor ac Arweiniad mewnol.